Newyddion

Dydd Sadwrn 27ain Hydref 2007: Ffynnon Daf 26 Trebannws 3

Tim cyntaf yn llawn gobaith er iddynt golli yng Nghwpan Konica Minolta Cymru i wrthwynebwyr o adran yn uwch. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 20ed Hydref 2007: Trebannws 51 Uwchdir Abertawe 14

Trebannws yn cynnal y pwysau ar Alltwen ar frig Adran 5 De Orllewin wrth iddynt drechu'r Ucheldiroedd yn gyffyrddus. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 20ed Hydref 2007: Ail Dim Pontardawe 20 Ail Dim Trebannws 20

Ail dim Trebannws yn ymladd yn ol i sicrhau gem gyfartal ym Mhontardawe. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 13eg Hydref 2007: Pontardawe 8 Trebannws 27

Trebannws yn sicrhau pwynt bonws wrth sgori pedwar cais mewn buddugoliaeth dros eu gwrthwynebwyr lleol ac yn codi i ail yn Adran 5 De-Orllewin. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 13eg Hydref 2007: Ail Dim Trebannws 15 Ail Dim Tregwyr 23

Ail dim Trebannws yn methu cyfle euraidd i gyrraedd rownd nesaf Cwpan Her Abertawe a'r Cylch wrth iddynt golli i Dregwyr. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 13eg Hydref 2007: Ieuenctid Abercraf 7 Ieuenctid Trebannws 37

Ieuenctid mewn buddugoliaeth mawr oddi cartre' yn y Pil. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 6ed Hydref 2007: Ieuenctid y Pil 7 Ieuenctid Trebannws 56

Ieuenctid mewn buddugoliaeth mawr oddi cartre' yn y Pil. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Mercher 3ydd Hydref 2007: Rownd 1af Cwpan Konica Minolta Cymru

Fe fydd Trebannws yn teithio i wynebu clwb Taffs Well o Adran 4 De-ddwyrain yn rownd gyntaf o gwpan Konica Minolta Cymru. Am rhagor o fanylion cliciwch yma

Dydd Sadwrn 29ain Medi 2007: Ieuenctid Trebannws 16 Ieuenctid Glynnedd 6

Yr Ieuenctid yn dechrau eu ymgyrch Cynghrair Rhanbarth y Gwielch Adran B gyda buddugoliaeth anodd yn erbyn Ieuenctid Glynnedd. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 22ain Medi 2007: Trebannws 47 Bynea 7

Trebannws yn sgori saith cais i gofnodi buddugoliaeth pendant dros Bynea sy'n codi'r tim yn uwch yn Adran 5 De-Orllewin. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 22ain Medi 2007: Ail dim Trebannws 7 Ail dim Tregwyr 8

Dydd Sadwrn 22ain Medi 2007: Ieuenctid Trebannws 31 Ieuenctid Athletig CN 3

Dydd Gwener 21ain Medi 2007: Diwrnod Golff Cyntaf yn Lwyddiant Mawr

Dechreuodd ein dirwnod golff cyntaf ar nodyn gwael pan hedfanodd y "Gazebo", a godwyd tu ol i'r twll cyntaf, i ffwrdd a diflanodd yn fuan allan o'r golwg. Y tro diwethaf y cafod ei weld, roedd yn hedfan dros ben y mynydd tuag at Clwb Golff y Palleg. I ddarllen rhagor cliciwch yma

Dydd Mercher 12ed Medi 2007: Ieuenctid Trebanos 10 Ieuenctid Bonymaen 18

Yr Ieuenctid yn colli i Fonymaen ond nid heb frwydr. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 8fed Medi 2007: Ystradgynlais 24 Trebannws 8

Er dewder a dangoswyd gan tim Trebannws, Ystradgynlais a fu'n ennill 24-8. Am adroddiad y gem cliciwch yma.

Dydd Sadwrn 8fed Medi 2007: Ail dim Trebannws 38 Ail dim Abercraf 28

Ail hanner ddisglair a welwyd ail tim Trebannws yn ennill ar iddynt dreilio ar hanner amser o 28-5. Am adroddiad y gem cliciwch yma.

Dydd Sadwrn 1af Medi 2007: Ieuenctid y Dyfnant 7 Ieuenctid Trebannws 22

Wnaeth gem o ddwy hanner orffen gyda time ieuenctid Trebannws yn ennill yn gyfforddus o 22-7. Am adroddiad y gem cliciwch yma

Dydd Sadwrn 1af Medi 2007: Trebanos 14 Glais 12

Trebannws yn cael dechreuad delfrydol i'r tymor trwy ennill dros Glais 14-12. Am adroddiad y gem cliciwch yma