Ieuenctid Y Dyfnant 7 Ieuenctid Trebannws 22

Dydd Sadwrn 1af Medi 2007

Roedd hon yn gem o ddwy hanner, gyda Trebannws yn chwarae’n dda iawn yn yr hanner cyntaf.  Sgorodd Mathew Edwards a Scott Barrett geisiau a chafodd Chris Balffe gais ychwanegol ar ei gem gyntaf i’r tim ieuenctid. Fe wnaeth Mathew Edwards drosi un o’r ceisiau.  Trebannws oedd yn fwyaf dylanwadol yn yr hanner cyntaf, gyda’r pac yn disgleirio. Ar ddiwedd yr hanner roedd e’n ymddangos fel peti Trebannws yn rheoli gêm.

Roedd yr ail hanner yn agosach o lawer. Ni chwaraeodd Trebannws i'r un safon a'r hanner cyntaf.  Fe wnaeth y Dyfnant ddod allan yn gryf ac roedd yr ymwelwyr o dan gymaint o bwysau fe wnaeth y dyfarnwr ddangos tair carden felen i’w chwaraewyr ar un adeg.  Manteisiodd y tim cartref ar y cyfle yma wrth iddynt sgori cais a wnaeth cael ei drosi.  Ymladdodd Trebannws yn ol, a sgorwyd cais gwych gan Daniel Docherty a ddaeth o fel cyflym a gafodd ei ennill gan y blaenwyr.

Fe wnaeth Chris Balffe a Declan Bale chwarae’n dda iawn yn eu gemau cyntaf dros y tim ieuenctid, gan ddangos brwdfrydedd mawr. Mae’r ddau yn amlwg yn mynd i fod yn aelodau gwerthfawr o’r garfan.

Tim
1 R Jones, 2 R Thomas, 3 D Blake, 4 B Owens, 5 R Carney, 6 C Balffe, 7 R Williams, 8 R Davies, 9 K Jones, 10 R Jones, 11 D Docherty, 12 S Barrett (Capt),
13 N Damjanovic, 14 S Davies, 15 M Edwards, 16 J Hopkins, 17 D Bale, 18 N Jones

Dyfarnwr Mr M Davies (Pontardawe)