Ystradgynlais 24 Trebannws 8

Dydd Sadwrn 8fed o Medi 2007

Ryc

Teithio pum milltir lan y cwm i Ystradgynlais y wnaeth Trebannws ar ddydd Sadwrn gan obeithio am ei ail fuddigoliaeth olynol yn adran 5 De Orllewin.

Fe ddechreuodd y tim yn addawol wrth i symudiad da ddanfon yr asgellwr Steve “Eyes” Williams am gais agored y gem ar ol tri munud.  Ond, doedd dim cyfle i Drebannws ddathlu wrth iddynt golli rheolaeth o’r sgarmes ar bwys ei llinell.  Saethodd y bel allan o gefn y sgrym, ac roedd rhif 8 Ystrad ar law i godi’r bel a chroesi'r llinell am gais syml.

Roedd waeth i ddilyn i Drebannws pan ychwanegodd Ystrad cais arall i’w sgor gan ymestyn y mantais i  10-5 ar ol 15 munud o chwarae.

tacl arbennig

Fe wnaeth adeg o bwysau gan Trebannws methu ildio fwy o sgôr a phan wnaeth torriant adael asgellwr Ystrad yn glir, tacl arbennig gan Captein Trebannws Amer Hussain, a gwaith dda gan y cefnwr Matthew Edwards, oedd yr hyn a wnaeth atal y sgôr.  Ond, wrth i Ystrad sicrhau’r meddiant o’r llinell, a gyda trosglwyddiant slic o’r bel, daeth trydydd cais i'r tim cartref.  Troswyd  ef i ymestyn mantais Ystradgynlais

 

cic cyn yr hanner

Wnaeth pac Trebannws dechrau cael y flaenoriaeth gyda phresenoldeb Nathan Bartlett yn amlwg yn y sgrym.  Roedd e’n edrych fel petai Trebannws yn sicr o sgori ond, ychydig cyn hanner amser, collwyd y prop profiadol, Simon Knight, gydag anaf i’w fraich.

Er mai Trebannws oedd y tim amlycaf, ei unig wobr aral yn ystod yr hanner oedd cic gosb a chafodd ei throsi o 35 metr allan gan y canolwr Rhodri Thomas.  Y sgôr ar yr hanner, felly, oedd Ystradgynlais 17-8 Trebannws.

chwarae dda

Dechreuodd Trebannws yr ail hanner yn yr un ffordd a gorffenwyd yr hanner cyntaf, gan iddynt greu digon o cyfleodd addawol .  Ond, roedd amddiffyn Ystrad yn gryf ac roedd llawer o gamdrafod gan gefnwyr Trebannws.  Gwnaeth hyn yn siwr bod yr ail hanner yn ddi-sgor nes yn hwyr yn yr hanner, pan wnaeth Ystrad cosbi Trebannws am ei camgymeriadau amddiffynol trwy sgori ei pedwerydd cais.  Gyda’r trosiad, y sgôr terfynnol oedd Ystradgynlais 24 Trebannws 8.

diwedd y gem

Er iddynt golli, roedd yn berfformiad calonogol gan dim Trebannws.  Roeddent yn gystadleuol iawn gydag Ystrad yn ystod y gem, a rhaid cofio mai'r tim cartref yw ffefrynau nifer o fobl i fod yn bencampwyr yr adran ar ddiwedd y tymor.

Tim Trebannws:

15. Matthew Edwards
14. Steve Williams
13. Amer Hussain (capt).
12. Rhodri Thomas
11. Lee Pickman
10. Kevin Windsor
9. Owain George
1. Nathan Bartlett
2. Dai Davies
3. Simon Knight
4. Liam Jones
5. James Erasmus
6. Ryan Philips
7. Malcolm Whiteman
8. Luke Davies

Eilyddion
Chris Jones (am Simon Knight)
Richard Langford (am Ryan Philips).
Scott Barrett (am Matthew Edwards)

Cerith Edwards (am Lee Pickman).