Pontardawe 8 Trebannws 27

Dydd Sadwrn 13eg Hydref 2007

Oherwydd toriad o dair wythnos yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, roedd disgwyl mawr am y gem yma, rhwng ddau dim lleol a ddechreuodd y diwrnod yn y drydedd a phedwaredd safle yn Adran 5 De Orllewin.  Cyrraeddod cefnogwyr y ‘Bannws yn brydlon am y gic gyntaf am 2:30 y.h. i ddarganfod fod y gem wedi dechrau rhyw ddeg munud yn gynnar.  Ond ni chollasant llawer am fod y gem yn ddi-sgor ar ol pymtheg munud o chwarae.

LlinellDominyddwyd yr hanner cyntaf o’r gem gan chwarae ystyfnig ymlith y blaenwyr, gyda phac mawr Pontardawe yn cael y gorau o’r chwarae, yn enwedig yn y sgarmesi, lle roedd y prop profiadol, Meiron Davies, yn amlwg iawn.  Ond, ym modd nodweddiadol y ‘Bannws, daliodd y bechgyn ati a chawsant eu gobrwyo am eu dyfalbarhau pan agorodd Rhodri Thomas y sgori ar yr hanner awr, wrth iddo drosi cic gosb ar ol i Bontardawe ladd y bel o dan pyst eu hunain.

Ond, yn syth cyn hanner amser daeth symudiad addawol gan olwyr Trebannws i ben yn sydyn, ac ar ol iddynt cael eu cosbi am ddal at y bel ar y llawr, ildiodd Trebannws ddeg medr arall, ar ol peth siarad mas o dro i'r dyfarnwr, i ddod a’r pyst o fewn cyrraedd maswr Pontardawe, Mark Joshua.  Trosodd y gic cosb gyda cic ola’r hanner i ddod a’r sgor yn gyfartal yn dri bwynt yr un ar yr egwyl.

Cafodd geiriau call yr hyfforddwr, Chris Loader, yn ei araith yn ystod yr egwyl, effaith unionsyth oherwydd dechreuodd Trebannws yr ail hanner a gwir fwriad.  Rhyddhawyd yr asgellwr, Andrew Penhale, ar linell ddeg y gwrthwynebwyr ar ol pasio slic gan yr olwyr ac fe lwyddod i ennill tir yn gyflym wrth iddo hedfanu i lawr y llaw dde.  Cafodd ei daclo’n brin o’r linell gais ond cadwyd y bel a daeth i feddiant y mewnwr Owain George a wnaeth yn dda i groesi ymhell o’r pyst am gais agoriadol Trebannws.  Methodd y trosiad.

MaulLlwyddodd Trebannws i ennill y bel o’r ail-ddechrau ac ar ol gwaith da gan y blaenwyr a’r olwyr symudodd yr ymwelwyr ymlaen nes bod o fewn cyrraedd llinell gais y tim cartre’.  Cafodd y bel ei drafod unwaith eto ymlith yr olwyr a phan ymunodd Andrew Penhale a’r ymosodiad yng nghanol cae, llwyddodd i fylchu a chroesi o dan y pyst am ail gais yr ymwelwyr.  Ychwanegodd Rhodri Thomas y trosiad i rhoi maintais iach i Drebannws o 15-3 ar ol ond pedair munud o’r ail hanner.

Egniolwyd Pontardawe gan y sgoriau cynnar yma ac arweiniodd hyn at gyfnod hir o bwysau y tu fewn i linell 22m Trebannws, lle cafodd pac yr ymwelwyr trafferth mawr i ddal wyth y tim cartre’.  Ond trwy amddiffyn dewr a pheth lwc, llwyddodd Trebannws i atal Pontardawe rhag sgori.  Newidiodd y gem i gyfeiriad Trebannws pan ddewisodd Pontardawe i eilyddio dau o’u rheng flaen profiadol ac, yn sydyn, tro pac Trebannws oedd i ddominyddu.  Cafodd Pontardawe eu cosbi dwy waith yn fuan gan y dyfarnwr wrth iddynt geisio atal Trebannws rhag sgori cais arall wrth i bac yr ymwelwyr rhoi pwysau mawr ar eu gwrthwynebwyr ond pum medr yn brin o'r linell gais. Cymerodd yr wythwr dylanwadol yr ail o'r rhain yn gyflym a bu bron i'r cawr o ail rheng Richard Langford wthio'i ffordd dros y linell gais. Ond daliodd Trebannws at y meddiant a phan daeth y bel i'r olwyr, bu'r gallu gan y maswr Kevin Windsor i guro'i wrthwynebwr yn hawdd a chroesi am gais o dan y pyst. Llwyddodd Rhodri ThLlinell Pontardaweomas a'r trosiad i ymestyn maintais y 'Bannws i 22-3.

I'w clod, ni rhoddodd Pontardawe y ffidil yn y to a hwythau oedd y nesa' i sgori wedi i Drebannws cael ei cosbi'n hallt am beidio gilio deg medr. Daeth y bel i feddiant asgellwr chwith cryf Pontardawe, Mathew Thomas, a chroesodd am gais haeddianol.

Gyda'r amser yn diflannu'n gloi, aeth Pontardawe am y sgor angenrheidiol a fyddai'n ennill pwynt bonws iddynt. Ond aeth pethau ar gam wedi iddynt geisio rhedeg y bel allan o'u 22 eu hunain a, phan rhwygodd y prop addawol Nathan Bartlett y bel o afael Pontardawe, cafodd y bel ei drosglwyddo'n gyflym i olwyr perylglus Trebannws. Bwydodd Rhodri Thomas ei gyd-ganolwr Steve Williams a llwyddodd i ennill tir cyn iddo ddodi'r asgellwr Chris Davies yn glir i rhedeg am bedwaredd cais Trebannws i sicrhau pwynt bonws i'r ymwelwyr. Methwyd y trosiad gyda cic ola'r gem i wneud y sgor terfynol Pontardawe 8 Trebannws 27.

Mae'r buddugoliaeth, dros gwrthwynebwyr a fu heb golli, yn gweld tim Trebannws yn codi i'r ail safle yn Adran 5 De Orllewin. Da iawn fechgyn. Daliwch ati.

Tim Trebannws:
L Pickman; A Penhale, S Williams, R Thomas, C Davies; K Windsor, O George;
N Bartlett, D Davies, C Meredith; R Langford, L Jones; M Evans, M Whiteman,
R Jones (Capten). Eilyddion: J Harding; M Hurst-Hughes; J Bailey; M Morris.