Trebannws 14 Glais 12

Dydd Sadwrn 1af o Medi 2007

KickGem o ddwy hanner oedd gem cyntaf Trebannws yn y gynghrair gyda pac amddyfrwys a phrofiadol yr ymwelwyr yn rheoli'r mwyafrif o’r meddiant a'r tir yn y deugain munud cyntaf.  Serch hynny roedd Trebannws yn fuan ar y blaen o 3-0, diolch i gic cosb gan Rhodri Thomas. Ond cyn hir gwnaeth yr ymwelwyr y mwyaf o’r ffaith eu bod eu blaenwyr yn domineiddio’r bel a sgori cais wedi rhediad o bymtheg llath.

defendYchwanegu pwysau ar y tim cartref wnaeth yr ymwelwyr gan fod Trebannws yn ceisio rhedeg bel anniben o’i llinell ei hun ac yna’n colli’r bel.  
Cynyddu’r pwysau gwnaeth Glais nes bod y dyfarnwr yn rhoi cais cosb amheus iddynt ar ol iddo ddyfarnu fod y tim cartref yn lladd y bel yn anghyfreithlon.  Roedd Trebannws braidd yn ddiolchgar i glywed y chwiban am hanner amser a'r sgor ar yr egwyl oedd Trebannws 3 Glais 12.

at the halfRoedd yr hyfforddwr Chris Loader yn amlwg wedi dewis y geiriau iawn i ysbrydoli ei dim ar yr hanner.  Roedd y tim cartref, yn enwedig y blaenwyr ifanc, gyda hen chwaraewyr y tim ieuenctid Luke Davies a Nathan Bartlett yn dilyn esiampl Simon Knight a Rhodri Jones, yn rhusio’r ymwelwyr. Chwaraeodd y tim cartref gem mwy cyflym yn yr ail hanner ac roeddent yn gofyn cwestiynnau mawr o amddiffyn Glais yn gyson.

Rhodri Thomas oedd y cyntaf i sgorio yn yr ail hanner gyda cic cosb gwych arall.  Yn fuan ar ol hynny cafodd cefnogwyr y tim cartref ei diddanu gan rhediad rhagorol gan yr asgellwr Lee Pickman a gafodd y bel ar llinell 22m Glais.  Trodd ei rhif wrthwyneb tu fewn a thu allan cyn gwibio heibio’r cefnwr i sgori cais yn y cornel.  Methodd Rhodri Thomas i drosi'r cais o drwch blewyn.lineout

Rhoddodd y cais ysbrodoliaeth i'r tim cartref i gadw ‘mlaen i chwarae’n gryf a cawsant eu gwobrwyo am eu ymdrechion pan giciodd Rhodri Thomas ei drydedd gic cosb.  Tro Trebannws oedd yn awr i wrthsefyll pwysau o dim Glais. Roedd angen cais cyflym er mwyn cael y canlyniad roeddent yn teimlo fod ei cefnogwyr yn haeddu.

Ym munud ola'r gem, wrth i Drebannws ddal at ei maintais o ddwy pwynt, cafodd y blaenasgellwr Malcolm Whiteman ei gosbi gan y dyfarnwr am dorri o'r sgarmes yn rhy gynar, i syndod cefnogwyr y tim cartref.  Roeddent yn amlwg wedi gweld fod y bel wedi saethu allan trwy rhwng traed wythwr a blaenasgellwr Glais. Er eu syndod am y gosb, dangoswyd parch gan y dorf i giciwr Glais wrth iddo anelu am y pyst .  Hyn oedd yn mynd i benderfynnu ennillwyr y gem.  Cafodd cyfiawnder i'w wneud wrth i’r gic cosb fethu. Chwibanodd y dyfarnwr am ddiwedd y gem. Y sgor terfynnol Trebannws 14 Glais 12.

Tim
C Edwards, L Pickman, A Hussein (Capt), R Thomas, A Penhale, K Windsor,
O George, N Bartlett, J Davies, S Knight, L Jones, L Davies, M Evans, R Jones, M Whiteman.

Eilyddio: J Harding am J Davies.

Dyfarnwr Mr Martin Edwards WRU (Blaenau Gwent)