Trebannws 47 Bynea 7

Dydd Sadwrn 22ain o Fedi 2007

Cais agoriado LeeAgorodd Trebannws y sgori’n gynnar yn y gem wrth i Rhodri Thomas drosi ddau gic gosb, ond wedi hynny gorfodwyd iddynt weithio’n galed am y sgor nesaf.  Defnyddiodd yr ymwelwyr eu prif dacteg, y sgarmes symudol, yn aml er gwneud y mwyaf o’u blaenwyr trwm, ond pan gipiwyd y meddiant gan flaenasgellwr Trebannws, Mal Whiteman, symudodd y bel yn fuan i’r olwyr.  Ymddangosodd yr asgellwr de, Andrew Penhale, yn nghanol cae ond, ar ol iddo gael ei atal gan amddiffyn dewr, cadwyd y meddiant gan y capten a’r wythwr, Rhodri  Jones.  Trosglwyddodd y bel  i’r cefnwr Lee Pickman a chroesodd am gais ardderchog.  Trosodd Rhodri Thomas y gic am bwyntiau ychwanegol.

RuckDaeth y sgor nesaf o chwarae rhydd a defnyddiodd Andrew Penhale ei gyflymdra i faeddu’r amddiffyn a sgori yn y cornel, gyda’r trosiad yn methu o drwch blewyn.  Daeth cais nesaf Trebannws o waith y tim cyfan, gyda’r clo, Richard Langford, yn gosod y seiliau am ei berfformiad fel chwaraewr y gem wrth iddo rhoi pas, a fyddai’n rhoi pleser i unrhyw ganolwr, i rhyddhau Andrew Penhale am ei ail gais o’r gem.

Penderfynodd yr ymwelwyr ei fod hi’n amser i sbwylio parti’r ‘Bannws a daeth y tim cartre o dan tipyn o bwysau am weddill yr hanner.  Ildiodd Trebannws nifer o giciau cosb mewn amser byr ac o’r diwedd bu’n rhaid i’r dyfarnwr, Stuart Kibble, ddangos carden felen i’r clo, Liam Jones, am ladd y bel.  Llwyddodd y tim cartre’ i ddal at eu maintais nes hanner amser, ac ar yr egwyl roedd Trebannws ar y blaen o 25-0.

RuckYn fuan ar ol y toriad, roedd Trebannws yn ol i bymtheg dyn a phenderfynodd y pac eu bod hi’n hen amser iddynt ddangos eu bod hefyd yn feistri o’r sgarmes symudol.  Gyrrodd y pac eu gwrthwynebwyr yn ol dros pum llath ar hugain cyn llwyddodd y prop dylanwadol, Nathan Bartlett, i wthio’i hunan dros y linell am gais arall.  Ymlaciodd y tim cartre’ ar ol y sgor yma ac ildiodd Trebannws nifer o giciau cosb arall.  Rhoddodd hwn gyfle i Fynea i weithio’u ffordd i lawr y cae ac arweiniodd hyn at gais i Fynea o dan y pyst a chafodd ei drosi.

Wedi ail-ddechrau’r chwarae, sgorodd Trebannws gais gorau’r gem.  Danfonwyd Andrew Penhale yn glir ar yr asgell dde, ar ol pasio cyflym a sicr, ond iddo gael ei daclo modfeddu yn brin o’r llinell gais gan amddiffyn yr ymwelwyr.  Sicrhawyd y meddiant gan y rheng ol, Rhodri Jones, Mal Whiteman a Mark Evans, a symudwyd y bel ymhlith yr olwyr i rhoi cyfle i’r asgellwr chwith Huw Preece groesi am gais yn y cornel.  Tarodd trosiad Rhodri Thomas y post.  Ni chafodd chwarae Trebannws ei effeithio gan y nifer o eilyddion a wnaethpwyd wrth i’r gem nesau at y diwedd, a chyn hir croesodd Andrew Penhale am ei drydydd cais ar ol rhediad twyllodrus o linell ddeg yr ymwelwyr.  Unwaith eto llwyddodd Rhodri Thomas i drosi’r cic am y pwyntiau ychwanegol.  Sgorodd yr eilydd o asgellwr, Mike Morris, cais ola’r diwrnod, wedi pasio da ymhlith yr olwyr unwaith eto.

Yn ond ei drydydd gem ar y safon yma, cafodd y dyfarnwr, Mr. Stuart Kibble, brynhawn da a llwyddodd i gyfathrebu'n dda gyda chwaraewyr y ddau dim.  Bydd croeso cynnes iddo ddyfarnu ar Barc Trebannws yn y dyfodol, er iddo ddangos ddau garden felen i’r tim cartre’.

Bydd y fuddugoliaeth yma’n hwb fawr i Drebannws a byddant yn hapus iawn a’u defnydd o’r bel. Bydd rhaid iddynt weithio i ildio llai o giciau cosb, a all profi’n gostus yn erbyn gwrthwynebwyr cryfach, ond da iawn ‘Bannws.

Tim Trebannws:
L Pickman; H Preece, S Williams, R Thomas, A Penhale; K Windsor, O George;
N Bartlett, D Davies, C Meredith; R Langford, L Jones; M Evans, M Whiteman,
R Jones (Capt)
Eilyddion: J Harding, C Edwards, M Morris, M Thomson.