Ail dim Trebannws 38 Ail dim Abercraf 28

Dydd Sadwrn Medi’r 8fed 2007.

Unwaith eto, gem o ddwy hanner oedd hon, wrth i Drebannws gael tipyn o drafferth i gadw tim mawr a phrofriadol Abercraf rhag sgori yn yr hanner awr cyntaf o gem a fyddai’n profi i fod yn un gyffrous iawn.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn dda gyda’i asgellwr chwith chwim yn llwyddo i sgori dau gais yn y deg munud agoriadol.  Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r tim cartref pan gollwyd ei canolwr ifanc Stephen Matthews gydag anaf difrifol i’w ysgwydd.

Cymerodd Abercraf maintais o angen y tim cartref i ail-drefnu, a chyn bod yr eilydd Nathan Griffiths wedi ymsefydlu’n iawn, sgorodd Abercraf gais arall, wedi symudiad rhugl rhwng eu blaenwyr a’u olwyr, i estyn eu maintais i un pwynt ar hugain.  Aeth Abercraf ymhellach ar y blaen ar ol cais a throsiad arall.  Gallai Trebannws wedi rhoi’r ffidil yn y to ar yr adeg yna, ond daeth eu cymeriad i’r golwg.

Gwrthododd pac ysgafnach y tim cartref i dderbyn eu bod yn dod yn ail ar y pryd.  Ni beidiodd yr ail rheng Gareth Jones, y bachwr Jon Harding a’r rheng ol chystadleuol daclo.  Arweiniodd yr wythwr Daryl John yr ymdrechion gyda rhediad cryf i’r linell gais o fon sgarmes ychydig y tu allan i linell 22 yr ymwelwyr.  Ar y toriad roedd Trebannws yn treulio o 5 – 28.

Roedd y gem yn fwy agored yn yr ail hanner a dechrueodd tim ifanc a chwimwyth Trebannws gymryd maintais o amddiffyn flineding yr ymwelwyr.  Wrth i ymosodiad Abercraf dorri lawr ar y llinell hanner, codwyd y bel rhydd gan rheng ol y tim cartef ac ar ol peth trafod da, sgorodd yr asgellwr chwith, Mike Morris, gais o dan y pyst.  Daeth y ddwy gais nesaf mewn dull tebyg, wrth i’r ymwelwyr golli’r meddiant eto a’r tim cartef yn sgori ceisiau gan y mewnwr Owain Hyett a’r eilydd o gefnwr Daniel Docherty.  Troswyd y dair gais gan Owain Hyett.

Cyn i’r drydedd cais gael ei sgori, penderfynodd Trebannws bod cyfartaledd ei oedran yn rhy isel a daeth yr hen ben, Hywel Griffiths, i’r cae yn y rheng ol.  I ddangos i rhai o’r ieuenctid fod ‘na ddim byd yn debyg i brofiad hen ben, croesodd Hywel am gais, gyda chymorth holl bac Trebannws, yn dilyn sgarmes symudol yn agos i linell gais Abercraf.  Roedd yn ddiwrnod arbennig i Hywel, 49 oed, wrth iddo ymuno a’i fab Nathan, sy’n 18 oed, yn yr un tim.

Daeth cais ola’r gem i Drebannws, cais gorau’r diwrnod gan chwaraeodd pob aelod o’r tim rhan ynddo.  Dan Docherty cafodd y fraint o sgori’r cais, ei ail gais yn y gem.  Trosodd Owain Hyett y cais i wneud y sgor terfynol, Trebannws 38 Abercraf 28.

Tim: D Rees, M Morris, S Matthews, A Harris, L O’Sullivan, H Preece, O Hyett (Capt), M Cross, J Harding, S David, G Jones, M Frost, D Organ, H Davies, D John.
Eilyddion: N Griffiths, H Griffiths, D Blake, D Docherty.