Taith Bysgota Clwb Rygbi Trebannws Hydref 2007

"Porky" a "Beans" yn dal ddwy del (am unwaith).

 

Porky

 

Beans

 

Prop Richard Walker a'r mewnwr Jason Bailey a'r samwn y daliasant ar yr afon Nith yn Sir Dumfries. Daliodd Richard bysgodyn 18 pwys a Jason un o 8 pwys. Cafodd y pysgod eu dychwelyd yn ol i'r afon. Aeth chwe aelod o glwb rygbi Trebannws ar y daith sef, Jason Bailey, Damien Williams, Roy Bowen, John, Richard ac Andrew Walker.

Fel y gwelwch yn y lluniau, dim ond "Beans" and "Porky" fu'n lwyddianus ond mae son y daliwyd nifer o samwn ym mar y gwesty. Cafodd cyn-ysgrifennydd y clwb, Roy Bowen, daith gwlyb, wrth iddo geisio bysgota dan-ddwr.

Bu'r bechgyn yn dyst i ddamwain modur ar y draffordd wrth iddynt dethio tuag adre'. Hedfanodd y modur oddi ar y draffordd, cyn syrthio i lawr lethr serth, trwy berth a choed, a gorffen a'r car yn wyneb i waered ar ei do. Wrth gwrs, aeth bechgyn Trebannws yn syth i achub deilieud y modur heb feddwl dwy waith am ddiogelwch eu hunain. Cymerodd PC Damien Williams y flaenoriaeth, gyda'r lleill yn cynorthwyo nes i'r gwasanaethau argyfwng gyrraedd. Rydym yn falch i ddweud fod deilieud y car, bachgen a merch ifanc, yn iawn, er bu niwed i ysgwydd y ferch ifanc.

Da iawn fechgyn!