Ieuenctid Abercraf 3 Ieuenctid Trebannws 37

Dydd Sadwrn 13eg Hydref 2007

Ail gem gynghrair y tymor oedd hwn i dim ieuenctid Trebannws a bu'r gallu gan yr hyfforddwyr Rhodri Jones a Phil Beynon i ddewis o bron llawn carfan, gydag ond dau chwaraewr yn eisiau trwy anafiadau.   Mae gemau rhwng Trebannws ac Abercraf wedi bod yn gystadleuol am lawer o flynyddoedd, ac mae timoedd ieuenctid y ddau glwb yn dilyn y traddodiad, gyda gemau rhyngddynt yn llawn ffyrnigrwydd.

Dechreuodd y gem ar garlam ac, am yr ugain munud cyntaf, nid oedd llawer rhwng y ddau dim, gyda’r ddau yn aml yn llwyddo i ddwyn pel eu gwrthwynebwyr yn y sgarmesi rhydd.  Cobwyd Abercraf ar ol ymosodiad o Drebannws, ac llwyddodd Nic Damjanovic i drosi o bellter, wrth i'w gic, o rhyw bymtheg llath ar hugain allan i’r dde, hedfanu rhwng y pyst.  Wedi ail-ddechrau’r gem, parhaodd Trebannws i rhoi pwysau ar Abercraf, gyda’r blaenwyr yn rheoli'n llwyr.  Cymaint oedd blaenoriaeth y pump blaen fel bod y rheng ol o Lee Sinclair, Luke Davies a Rhodri Williams yn medru rhoi perfformiad unedol rhagorol unwaith eto.  Ar ol gwaith da a rhagor o bwysau o’r blaenwyr, croesodd yr ail rheng, Rhys Carney, am gais yn y cornel.  Dihunodd Abercraf ar ol y sgor yma, ac ar ol gwaith da gan eu blaenwyr, llwyddodd maswr Abercraf gyda gol adlam.  Yn ol daeth pac Trebannws ac, yn dilyn llinell ar linell 22m y tim cartre’, daeth y bel i feddiant Nathan Jones a sgorodd gais nodweddiadol o dan y pyst a chafodd ei drosi gan Nic Damjanovic.  Ar ol hanner pleserus iawn, roedd Trebannws ar y blaen ar yr egwyl o bymtheg pwynt i dri.

Dilynodd yr ail hanner yr un patrwm a’r hanner cyntaf, wrth i Drebannws ddominyddu pob agwedd o’r chwarare.  Mae gwaith da Rhodri Jones a hyfforddwr y blaenwyr, Phil Beynon, yn dod yn fwy a mwy amlwg wrth i’r wythnosau fund heibio, wrth i’w tim rheoli’r chwarae a dwyn pel eu gwrthwynebwyr yn gyson.  Er i Abercraf ymdrechu’n ddewr, daeth ffitrwydd a techneg Trebannws i’r golwg wrth i’r gem nesau at y terfyn a llwyddodd yr ymwelwyr i sgori pedair cais yn ugain munud ola’r gem.  Wedi chwarae ardderchog gan y tri-chwarteri, ymddangosodd y maswr Ross Jones ar ddiwedd y symudiad i groesi yn y cornel.  Yna, sgorodd yr ail rheng, Chris Balffe, ddau gais arall i ychwanegu at ei gyfanswm y tymor, cyn i’r prop Damien Blake groesi am gais ola’r gem, gwobr arall am rhagor o bwysau gan pac Trebannws.  Trosodd Nic Damjanovic y cais a daeth y gem i ben i selio buddugoliaeth i dim ieuenctid Trebannws o 37 pwynt i 3.

Mae’r tim wedi cael dechreuad rhgorol i’r tymor a gobeithiwn y bydd y safon yma o chwarae yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesa’.  Daliwch ati, fechgyn.

Tim Trebannws:
K Jones; D Docherty, N Damjanovic, S Barrett (Capten), L Osowicz; R Jones, N Jones; R Jones, R Thomas, D Blake; R Carney, C Balffe; L Davies, R Williams, L Sinclair; J Hopkins, D Bale, D Grenfell, C Sinclair-Swift.